2 Corinthians 3:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr edrych ydd ym ni oll megis mewn drych ar ’ogoniant yr Arglwydd ac wynep ymatgudd, ac in newidir ni ir vnryw ddelw, o ’ogoniant i ’ogoniant, megis y gan Yspryt yr Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond nyni oll, â gwyneb heb orchudd arno, yn gwrthdaflu, fel drych, ogoniant yr Arglwydd, i’r un ddelw y’n traws-ffurfir, o ogoniant i ogoniant, fel oddiwrth yr Arglwydd, yr Yspryd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A nyni oll gan syllu ag wyneb diorchudd, megis mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd, a newidir i’r un ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan yr Arglwydd, yr Ysbryd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych, a newidir i'r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly does dim angen gorchudd ar ein hwynebau ni. Dŷn ni i gyd fel drych yn adlewyrchu ysblander yr Arglwydd, ac yn cael ein newid i fod yn debycach iddo. Dŷn ni'n troi'n fwy a mwy disglair o hyd. A'r Ysbryd Glân ydy'r Arglwydd sy'n gwneud hyn i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr ydym ni i gyd, heb orchudd ar ein hwyneb, yn edrych, fel mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd ac yn cael ein trawsffurfio o ogoniant i ogoniant, yn wir lun ohono ef. A gwaith yr Arglwydd, yr Ysbryd, yw hyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr nyni oll ag wyneb diorchudd, gan edrych megys mewn drych ar ogoniant yr Arglwydd, a drawsffurfir i'r un ddelw o ogoniant i ogoniant, megys oddiwrth yr Arglwydd, yr Yspryd.