2 Corinthians 3:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ein epistol ni ydyw‐chwi, yn escrivenedic yn ein calonae, yr hwn a ddyellir ac a ddarlle n ir gan bawp dyn,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ein hepistol ydych chwi, yn ysgrifenedig yn ein calonnau, yn cael ei adnabod a’i ddarllen gan bob dyn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ein llythyr ni ydych chwi, wedi ei ysgrifennu yn ein calonnau, yn hysbys i bawb ac yn ddarllenadwy ganddynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ein llythyr ni ydych chwi yn ysgrifenedig yn ein calonnau, yr hwn a ddeellir ac a ddarllenir gan bob dyn:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Chi eich hunain ydy'n tystlythyr ni! Llythyr sydd wedi ei ysgrifennu ar ein calonnau ni, ac mae pawb ym mhobman yn gwybod amdano ac yn gallu ei ddarllen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Chwi yw ein llythyr ni; y mae wedi ei ysgrifennu yn ein calonnau, a gall pob un ei ddeall a'i ddarllen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ein llythyr ni ydych chwi, wedi ei ysgrifennu yn ein calonnau, yn ddealledig ac yn ddarllenedig gan bob dyn,