2 Corinthians 3:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
nyd erwyð ein bot yn aðas o hanam ein hunain, y veddwl iet dim, megis o hanam ein hunain: eithyr ein addasdap ni y sydd o Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
nid ein bod, o honom ein hunain, yn ddigonol i feddwl dim megis o honom ein hunain, eithr ein digonedd oddiwrth Dduw y mae;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ni olyga hyn ein bod yn gymwys ohonom ein hunain i farnu dim, fel pe bai’n deillio ohonom ni ein hunain, eithr o Dduw y mae ein cymhwyster
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid oherwydd ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain i feddwl dim megis ohonom ein hunain; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni ddim yn deilwng ynon ni'n hunain i hawlio'r clod am ddim byd — Duw sy'n ein gwneud ni'n deilwng.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain; ni allwn briodoli dim i ni ein hunain; o Dduw y daw ein digonolrwydd ni,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nid o herwydd ein bod yn ddigonol o honom ein hunain i gyfrif unrhyw beth megys o honom ein hunain; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw,