2 Corinthians 3:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ad yw y wenidogeth angeu wedyr yscrivennu a llythyre nnæ ai ffurfiaw ym‐main in, vot yn‐gogoniant us, mal na allai plant yr Israel edrych yn wynep Moysen, can ’ogoniāt ei wyne pryd (rhwn ’ogoniant a ddilewyt)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond os gweinidogaeth angau, wedi ei hysgrifenu a’i hargraphu ar gerrig, fu mewn gogoniant, fel na allai meibion Israel edrych yn graff ar wyneb Mosheh o achos gogoniant ei wyneb, yr hwn ogoniant oedd yn cael ei ddiddymmu,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os bu gweinidogaeth angau a gerfiwyd mewn llythrennau ar gerrig mewn gogoniant, fel na allai meibion Israel graffu ar wyneb Moses oblegid gogoniant ei wyneb, er mai gogoniant yn diflannu ydoedd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os bu gweinidogaeth angau, mewn llythrennau wedi eu hargraffu ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allai plant yr Israel edrych yn graff ar wyneb Moses, gan ogoniant ei wynepryd, yr hwn ogoniant a ddilewyd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er bod yr hen drefn (gafodd ei naddu ar garreg) yn arwain i farwolaeth, cafodd ei rhoi gyda'r fath ysblander! Roedd yr Israeliaid yn methu edrych ar wyneb Moses am ei fod yn disgleirio! (Ond roedd yn pylu wrth i amser fynd yn ei flaen).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gweini marwolaeth oedd swydd y Gyfraith a'i geiriau cerfiedig ar feini, ond gan gymaint gogoniant ei chyflwyno, ni allai'r Israeliaid syllu ar wyneb Moses o achos y gogoniant oedd arno, er mai rhywbeth i ddiflannu ydoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond os bu gweinidogaeth angau, wedi ei cherfio mewn llythyrennau ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allai meibion Israel edrych yn graff ar wyneb Moses, o achos gogoniant ei wyneb, yr hwn oedd yn diflannu,