2 Corinthians 4:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A chan vot i ni yr vn Yspryt ffyð, erwydd y mae yn scrifenedic, Credais, ac am hyny y llavarais, ac ydd ym ni nheu yn credu, ac am hynny y llavarwn,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond a chenym yr un yspryd ffydd, yn ol yr hyn sydd ysgrifenedig, “Credais, gan hyny y lleferais,” nyni hefyd ym yn credu, a chan hyny llefaru yr ydym;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan fod gennym yr un ysbryd ffyddiog, megis yr ysgrifennwyd Credais, am hynny lleferais, yr ydym ninnau’n credu ac oblegid hynny yn llefaru hefyd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chan fod gennym yr un ysbryd ffydd, yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd, Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Credais, felly dwedais.” Yr un ysbryd sy'n ein gyrru ni'n ein blaenau. Dŷn ni hefyd wedi credu ac felly'n dweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan fod gennym ni yr un ysbryd crediniol yr ysgrifennir amdano yng ngeiriau'r Ysgrythur, "Credais, ac am hynny y lleferais", yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond gan fod gennym yr un yspryd ffydd, yn ol yr hyn a ysgrifennwyd, Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru;