2 Corinthians 4:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
pryd na d edrychom ar y petheu hyn a welir, anyd ar y petheu, ny welir ddim hanynt: can ys y petheu a welir, ’s y dros amser: a’r petheu ny welir, ’s y tragyvythawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a ni nid yn edrych ar y pethau a welir, eithr ar y rhai na welir, canys y pethau a welir, am ryw amser y maent; ond y rhai na welir, tragywyddol ydynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan nad ydym yn edrych ar y pethau gweledig eithr ar y pethau anweledig. Canys y pethau gweledig dros dymor y maent, ond y mae’r pethau anweledig yn dragwyddol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragwyddol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly mae'n sylw ni wedi ei hoelio ar beth sy'n anweledig, dim ar beth welwn ni'n digwydd o'n cwmpas ni. Dydy beth sydd i'w weld ond yn para dros dro, ond mae beth sy'n anweledig yn aros am byth!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
dim ond inni gadw'n golwg, nid ar y pethau a welir, ond ar y pethau na welir. Dros amser y mae'r pethau a welir, ond y mae'r pethau na welir yn dragwyddol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a ninnau, nid yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir ydynt am dymhor, ond y pethau ni welir ydynt dragywyddol.