2 Corinthians 4:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
eithr ymwrthot a wnaetham a gorchuddiau coegedd, ac nyd rhodiaw ydd ym yn hocced us, ac nyd ym yn camdraethu gair Duw: eithr can eglurhau y gwirionedd ydd ym yn ymbrifio wrth cydwybot pop dyn yn‐golwc Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn anfadrwydd, na thrin Gair Duw yn dwyllodrus, eithr trwy amlygiad y gwirionedd yn canmol ein hunain i bob cydwybod dynion yngolwg Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr ymwrthodasom â’r pethau a gelir o gywilydd, heb rodio mewn cyfrwystra na llygru gair Duw, ond drwy eglurhad y gwirionedd yr ydym yn ein cymeradwyo ein hunain i bob cydwybod ddynol gerbron Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr ni a ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn cyfrwystra, na thrin gair Duw yn dwyllodrus, eithr trwy eglurhad y gwirionedd yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni wedi gwrthod pob dull cudd a dan din o weithredu. Wnawn ni ddim twyllo neb na gwyrdroi neges Duw. Dŷn ni'n dweud yn blaen beth ydy'r gwir, ac mae pawb yn gwybod eu bod nhw'n gallu'n trystio ni fel rhai sy'n gwbl agored o flaen Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydym wedi ymwrthod ffyrdd dirgel a chywilyddus; nid ydym yn arfer cyfrwystra nac yn llurgunio gair Duw. Yn hytrach, trwy ddwyn y gwirionedd i'r amlwg yr ydym yn ein cymeradwyo'n hunain i gydwybod pob un gerbron Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr ni a ymwadasom â chuddiedig bethau cywilydd, gan beidio rhodio mewn cyfrwystra a llygru gair Duw; eithr trwy amlygiad o'r gwirionedd yr ydym yn cymmeradwyo ein hunain i bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw.