2 Corinthians 4:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yð ys in gorthrymu o bop parth, er hyny nyd ym mewn cyfyngder: ydd ym mewn cyfing gyngor, er hyny nyd ym yn ðigyngor.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O bob parth y gwesgir arnom, eithr heb ein cyfyngu; wedi ein dyrysu, eithr nid yn ddiobaith;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ym mhob dim yr ydym yn orthrymedig ond nid mewn cyfyngder, mewn penbleth ond nid mewn anobaith,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ym mhob peth yr ŷm yn gystuddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng gyngor, ond nid yn ddiobaith;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er fod trafferthion yn gwasgu o bob cyfeiriad, dŷn ni ddim wedi cael ein llethu'n llwyr. Dŷn ni'n ansicr weithiau, ond heb anobeithio;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ym mhob peth yr ydym yn cael ein gorthrymu ond nid ein llethu, ein bwrw i ansicrwydd ond nid i anobaith,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn cael ein gwasgu ym mhob modd, eithr heb ei bod yn gyfyng arnom; heb wybod lle i droi, eithr nid yn hollol ddi‐obaith;