2 Corinthians 5:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
CAn ys gwyddam pe a’s ein dayarol d u y y pebyll hyn a ddinistrir, vot i ni adail at vvedy roddi gā Duw, nid amgen, t u y ny d o waith llaw ddyn, anyd tragyvythawl yn y nefoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys gwyddom, os ein daearol dŷ o’r babell hon a ddattodir, fod adeilad oddiwrth Dduw genym, tŷ nid o waith llaw, tragywyddol, yn y nefoedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys gwyddom os datodir ein daearol drigle yn y babell fod gennym adeilad oddi wrth Dduw, sef trigle nid o waith llaw ond un tragwyddol yn y nefoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ni a wyddom, os ein daearol dŷ o'r babell hon a ddatodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r amser yn dod pan fydd y babell ddaearol dŷn ni'n byw ynddi (sef ein corff) yn cael ei thynnu i lawr. Ond dŷn ni'n gwybod fod gan Dduw adeilad ar ein cyfer ni — cartref parhaol yn y nefoedd wedi ei adeiladu ganddo fe'i hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyddom, os tynnir i lawr y babell ddaearol hon yr ydym yn byw ynddi, fod gennym adeilad oddi wrth Dduw, tu375? nad yw o waith llaw, sydd yn dragwyddol yn y nefoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys ni a wyddom, os y daearol dŷ o'r babell hon a ddattodir, fod i ni adeilad oddiwrth Dduw, tŷ nid o waith llaw, tragywyddol, yn y nefoedd;