2 Corinthians 5:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly can y ni wybot ofn had yr Arglwydd, ydd ym yn peri y ddynion gredu, ac in eglurhawyt i Dduw, ac yddwy yn gobeithio hefyt ddarvot ein egluraw ni yn eich cydwybodae chvvi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan wybod, gan hyny, ofn yr Arglwydd, dynion a berswadiwn, ond i Dduw y’n hamlygwyd, a gobeithiaf mai yn eich cydwybodau chwi hefyd y’n hamlygwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A nyni, gan hynny, yn gwybod beth yw ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion ac fe’n gwnaed yn hysbys i Dduw. Hyderaf ein bod hefyd wedi ein gwneud yn hysbys yn eich cydwybodau chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion: eithr i Dduw y'n gwnaed yn hysbys; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneuthur yn hysbys yn eich cydwybodau chwithau hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, am ein bod ni'n gwybod fod yr Arglwydd i'w ofni, dŷn ni'n ceisio perswadio pobl. Mae Duw yn gwybod sut rai ydyn ni, a dw i'n hyderus eich bod chi'n gwybod eich bod chi'n gallu'n trystio ni hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, o wybod beth yw ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio pobl; y mae'r hyn ydym yn hysbys i Dduw, ac rwy'n gobeithio ei fod yn hysbys i'ch cydwybod chwi hefyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn darbwyllo dynion; eithr i Dduw yr ydym wedi ein gwneyd yn amlwg; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneyd yn amlwg yn eich cydwybodau chwithau.