2 Corinthians 5:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can na d ym yn ymganmol drachefn wrthych, anyd rhoddy ywch achos gorvoledd am danom, val y caffoch beth y atep yn erbyn yr ei ’sy ai gorvoledd yn yr wynep, ac nyd yn y galon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid ein canmol ein hunain i chwi drachefn yr ydym, eithr yn rhoddi i chwi achlysur ymffrost o’n plegid, fel y bo genych yn erbyn y rhai sy’n ymffrostio yn y golwg, ac nid yn y galon;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid ydym drachefn yn ein cymeradwyo ein hunain i chwi, eithr rhoddi i chwi yr ydym achlysur ymffrost o’n plegid, fel y bo gennych rywbeth i wynebu’r rhai sy’n ymffrostio yn yr hyn sydd yn y golwg ac nid yn y galon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid ydym yn ein canmol ein hunain drachefn wrthych, ond yn rhoddi i chwi achlysur gorfoledd o'n plegid ni, fel y caffoch beth i ateb yn erbyn y rhai sydd yn gorfoleddu yn y golwg, ac nid yn y galon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim ceisio canmol ein hunain ydyn ni eto. Na, dim ond eisiau i chi fod yn falch ohonon ni. Dŷn ni eisiau i chi allu ateb y rhai sydd ddim ond yn ymfalchïo yn yr allanolion a ddim yn beth sydd yn y galon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid ydym yn ein cymeradwyo ein hunain unwaith eto i chwi, ond rhoi cyfle yr ydym i chwi i ymffrostio o'n hachos ni, er mwyn ichwi gael ateb i'r rhai sy'n ymffrostio yn yr hyn sydd ar yr wyneb yn hytrach na'r hyn sydd yn y galon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid cymmeradwyo ein hunain drachefn i chwi yr ydym, eithr rhoddi achlysur ymffrost i chwi o'n plegyd, fel y byddo gennych beth i gwrdd â'r rhai a ymffrostiant yn y golwg, ac nid yn y galon;