2 Corinthians 5:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys cariat Christ a’n cym p ell: can y ni varnu val hyn, o bleit a’s bu vn varw tros am bavvp oll yno ys meirw oeddynt oll,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ai yn ein pwyll, i chwi y mae; canys cariad Crist sydd yn ein cymmell, gan farnu o honom y bu un farw dros bawb,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y mae cariad Crist â’i orfod arnom gan ein bod wedi barnu hyn — fod un wedi marw dros bawb ac felly fod pawb wedi marw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae cariad Crist yn ein cymell ni, gan farnu ohonom hyn; os bu un farw dros bawb, yna meirw oedd pawb:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cariad y Meseia sy'n ein gyrru ni'n ein blaenau. A dyma'n argyhoeddiad ni: mae un dyn wedi marw dros bawb, ac felly mae pawb wedi marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae cariad Crist yn ein gorfodi ni, a ninnau wedi ein hargyhoeddi o hyn: i un farw dros bawb, ac felly i bawb farw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys cariad Crist sydd yn ein cymhell ni, gan farnu o honom hyn: Bu un farw dros bawb; o ganlyniad, bu pawb feirw;