2 Corinthians 5:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ef vu varw dros bavvp oll, val y bo ir ei byw, na vyddant vyw rhac llaw yðyn y hunain, anyd i hwn a vu varw drostwynt, ac a ad g yv odes.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chan hyny, pawb a fuant feirw: a thros bawb y bu Efe farw, fel y byddai i’r rhai byw ddim mwyach fyw iddynt eu hunain, eithr i’r Hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thros bawb y bu farw fel na byddo i’r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain eithr i’r hwn a fu farw drostynt ac a gyfodwyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a fu farw dros bawb, fel na byddai i'r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae e wedi marw dros bawb er mwyn i'r rhai sy'n cael bywyd tragwyddol beidio byw i blesio nhw eu hunain o hyn allan. Maen nhw i fyw i blesio'r un fuodd farw drostyn nhw a chael ei godi yn ôl yn fyw eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A bu ef farw dros bawb er mwyn i'r byw beidio byw iddynt eu hunain mwyach, ond i'r un a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a bu efe farw dros bawb, fel na byddai i'r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd.