2 Corinthians 5:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly, ar ol hyn nyd ym yn adnabot neb un erwydd y cnawt, a’ chyd adnabysem ni Christ erwydd y cnawt, er hynny o hyn allan nyd ym yn y adnabot ef mwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly nyni, o hyn allan, nid adwaenwn neb yn ol y cnawd; ac os adnabuom Grist yn ol y cnawd, etto yn awr nid adwaenom Ef mwyach felly.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly nyni, o hyn allan, nid adwaenom neb yn ôl y cnawd. A hyd yn oed os adnabuom Grist yn ôl y cnawd, eto ar hyn o bryd nid ydym mwyach yn ei adnabod fel hynny.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny nyni o hyn allan nid adwaenom neb yn ôl y cnawd: ac os buom hefyd yn adnabod Crist yn ôl y cnawd, eto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef mwyach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bellach dŷn ni wedi stopio edrych ar bobl fel mae'r byd yn gwneud. Er ein bod ni ar un adeg wedi edrych ar y Meseia ei hun felly, dŷn ni ddim yn gwneud hynny mwyach.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O hyn allan, felly, nid ydym yn ystyried neb o safbwynt dynol. Hyd yn oed os buom yn ystyried Crist o safbwynt dynol, nid ydym yn ei ystyried felly mwyach.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly nyni o hyn allan nid adwaenwn neb yn ol y cnawd; ac os hyd y nod yr ydym wedi adwaen Crist yn ol y cnawd, etto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef felly mwyach.