2 Corinthians 5:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny a’d oes neb vn yn‐Christ, byddet ef yn creatur newydd. Yr hen betheu aethan heibio: wely, yr oll petheu sy wedy gwneuthur o newydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly os yng Nghrist y mae neb, creadur newydd yw; yr hen bethau a aethant heibio; wele, aethant yn newydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly os yw neb yng Nghrist y mae’n greadur newydd. Darfu’r hen bethau; wele daeth pethau newydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan hynny od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd: yr hen bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan mae rhywun yn dod yn Gristion mae wedi ei greu yn berson newydd: mae'r hen drefn wedi mynd! Edrychwch, mae bywyd newydd wedi cymryd ei le!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, os yw rhywun yng Nghrist, y mae'n greadigaeth newydd; aeth yr hen heibio, y mae'r newydd yma.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd; yr hen bethau a aethant heibio; wele, daethant yn newydd!