2 Corinthians 5:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Duw yt oedd yn Christ, ac a gysiliawdd y byt yddo yhun, eb liwio yddynt ei pechotae, ac a ddodes i ni ’air y cysiliat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
sef yr oedd Duw yng Nghrist yn cymmodi y byd ag Ef Ei hun, heb gyfrif iddynt eu camweddau, ac wedi rhoddi ynom ni air y cymmod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
sef bod Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun heb gyfrif iddynt eu troseddau ac wedi gosod ynom ni air y cymod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Sef, bod Duw yng Nghrist yn cymodi'r byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau; ac wedi gosod ynom ni air y cymod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydy, mae Duw wedi sicrhau heddwch rhyngddo fe'i hun â'r byd drwy beth wnaeth y Meseia. Dydy e ddim yn dal methiant pobl yn eu herbyn nhw! Ac mae wedi rhoi i ni y gwaith o ddweud am hyn wrth bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hynny yw, yr oedd Duw yng Nghrist yn cymodi'r byd ag ef ei hun, heb ddal neb yn gyfrifol am ei droseddau, ac y mae wedi ymddiried i ni neges y cymod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
sef: Yr oedd Duw yng Nghrist yn cymmodi y byd âg ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu camweddau, ac wedi rhoddi i ni air y Cymmod.