2 Corinthians 5:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wrth hynny ydd ym ni yn genadwri dros Christ: megis pe bai Duw ich adolwyn trywom ni, atolygwn yvvch yn lle Christ, bot ych cysilio a Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Tros Grist, gan hyny, yr ym genhadau, fel â Duw yn deisyf trwom. Erfyn tros Grist yr ydym, Cymmoder chwi â Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Llysgenhadau dros Grist gan hynny ydym ni, megis pe bai Duw yn eich annog drwom ni. Yr ydym yn erfyn dros Grist, cymoder chwi â Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr ydym ni yn genhadau dros Grist, megis pe byddai Duw yn deisyf arnoch trwom ni: yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymoder chwi â Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n llysgenhadon yn cynrychioli'r Meseia, ac mae Duw yn anfon ei apêl allan trwon ni. Ar ran y Meseia, dŷn ni'n crefu arnoch chi: Dewch i berthynas newydd gyda Duw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly cenhadon dros Grist ydym ni, fel pe bai Duw yn apelio atoch trwom ni. Deisyf yr ydym dros Grist, cymoder chwi Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dros Grist gan hynny yr ydym genhadau, megys pe bae Duw yn deisyf trwom; yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymmoder chwi â Duw.