2 Corinthians 5:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys gwnaeth ef hwnw y vot yn bechot trosam, yr vn nyd adnabu ddim pechot, val in gwnelit yn gifiawnder Duw ynddo ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr Hwn nad adnabu bechod, trosom ni a wnaeth Efe yn bechod, fel yr aem ni yn gyfiawnder Duw Ynddo Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr hwn nid adnabu bechod a wnaeth ef yn bechod drosom ni, fel y’n gwnelid ni’n gyfiawnder Duw drwyddo ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr hwn nid adnabu bechod, a wnaeth efe yn bechod drosom ni; fel y'n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaeth Iesu ddim pechu, ond dyma Duw yn ei wneud e'n offrwm dros bechod ar ein rhan ni. Dŷn ni'n gallu byw mewn perthynas iawn gyda Duw drwy ein perthynas gydag e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni wybu Crist beth oedd pechu, ond gwnaeth Duw ef yn un phechod drosom ni, er mwyn i ni ddod yn gyfiawnder Duw ynddo ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn nid adnabu bechod a wnaeth efe yn bechod trosom ni, fel y delem ninnau yn gyfiawnder Duw ynddo ef.