2 Corinthians 5:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yn ddiau ny ni’r ei ’sy dd yn y pebyll hynn, yd ym yn vcheneidio, ac yn llwythoc, can nad wyllysem ein diosc, any d cahel ymwiscaw am danom, val y dar llyncid marwolaeth gan vywyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys ni y sydd yn y babell hon, ocheneidio yr ydym, yn llwythog, nid am ewyllysio o honom ddiosg, eithr ymwisgo, fel y llyngcer y marwol gan fywyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny yr ydym ni sydd yn y babell, yn griddfan o dan ein baich, oblegid nid ydym yn dymuno cael ein dadwisgo eithr ein harwisgo, fel y llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ninnau hefyd y rhai ŷm yn y babell hon ydym yn ocheneidio, yn llwythog: yn yr hyn nid ŷm yn chwennych ein diosg, ond ein harwisgo, fel y llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra'n byw yn y babell ddaearol, dŷn ni'n griddfan ac yn gorfod cario beichiau. Ond dŷn ni ddim am fod yn noeth a heb gorff — dŷn ni eisiau gwisgo'r corff nefol. Dŷn ni eisiau i'r corff marwol sydd gynnon ni gael ei lyncu gan y bywyd sy'n para am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr ydym ni sydd yn y babell hon yn ochneidio dan ein baich; nid ein bod am ymddiosg ond yn hytrach ein harwisgo, er mwyn i'r hyn sydd farwol gael ei lyncu gan fywyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys nyni yn wir y rhai ydym yn y babell hon, ydym yn ocheneidio o dan y baich, nid am ein bod yn chwennych ymddiosg, eithr ymwisgo, fel y llyngcer y marwol gan fywyd.