2 Corinthians 5:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny ydd ym bop amser yn hyderus, cyd gwypom mae tra ydym gartref yn y corph, eyn bot yn ym dd eith ywrth yr Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan fod yn hyderus, gan hyny, bob amser, ac yn gwybod tra’r ydym yn gartrefol yn y corph,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr ydym, oblegid hyn, yn hyderus bob amser gan ein bod yn gwybod bod cartrefu yn y corff yn golygu ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr ydym yn hyderus bob amser, ac yn gwybod, tra ydym yn gartrefol yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dŷn ni'n gwbl hyderus, ac yn deall ein bod oddi cartref tra'n byw yn ein corff daearol, ac wedi'n gwahanu oddi wrth yr Arglwydd Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, yr ydym bob amser yn llawn hyder. Gwyddom, tra byddwn yn cartrefu yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan fod yn hyderus gan hynny bob amser, ac yn gwybod tra yr ydym gartref yn y corph ein bod oddi cartref oddiwrth yr Arglwydd