2 Corinthians 5:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
er hyny ydd ym yn hyderus ac a vynnem yn hytrach ysmutaw allan o’r corph, a’ thrigiaw y gyd a’r Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
hyderus ydym, a boddlonir ni yn hytrach i fod yn absennol o’r corph, a chartrefu gyda’r Arglwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Mawr ynteu yw ein hyder, ac y mae’n llawer gwell gennym fod oddi cartref o’r corff â chartrefu gyda’r Arglwydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr ydym yn hy, ac yn gweled yn dda yn hytrach fod oddi cartref o'r corff, a chartrefu gyda'r Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n dweud eto ein bod ni'n gwbl hyderus o beth sydd i ddod. Er, wrth gwrs byddai'n well gynnon ni adael y corff hwn er mwyn cael bod adre gyda'r Arglwydd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydym yn llawn hyder, meddaf, a gwell gennym fyddai bod oddi cartref o'r corff a chartrefu gyda'r Arglwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond hyderus ydym, a rhyngir bodd i ni yn hytrach, fod oddi cartref o'r corph a chartrefu gyda'r Arglwydd.