2 Corinthians 6:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
megis yn dristion, ac eto yn ’oestat yn llawen: megis yn dlodion, ac eto yn cyfoethogi llawer: megis eb ddim cenym, ac eto yn meddy annu pop dim.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel yn cael ein tristau, ond yn wastad yn llawen; fel yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer; fel heb ddim genym, ac â phob peth yn ein meddiant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
megis rhai athrist ac eto yn llawenhau yn wastadol, megis tlodion ac eto yn cyfoethogi llawer, megis rhai heb ddim ganddynt ac eto yn meddiannu popeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis wedi ein tristáu, ond yn wastad yn llawen; megis yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer; megis heb ddim gennym, ond eto yn meddiannu pob peth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn dal i orfoleddu er gwaetha'r holl dristwch. Yn gwybod ein bod ni'n dlawd, ac eto'n rhannu cyfoeth ysbrydol gyda llawer. Heb ddim, ac eto mae gynnon ni bopeth sydd ei angen!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
dan dristwch, ond bob amser yn llawenhau; mewn tlodi, ond yn gwneud llawer yn gyfoethog; heb ddim gennym, ac eto'n berchen pob peth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel yn cael ein tristâu, ond yn wastad yn llawenhâu! fel yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer! fel heb ddim gennym, ac yn meddiannu pob peth!