2 Corinthians 6:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nac iauer‐chwi yn ancym p arus gyd a’r anffyddlonion: can ys pa gymddeithas ’sydd i wiredd ac anwireð? a’ pha gommun ’sydd y ’oleuni a thywyllwch?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nac iauer chwi yn anghymmarus â rhai digred; canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfraith? Neu pa gymmundeb i oleuni a thywyllwch?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na ieuer chwi’n anghydweddol â rhai digred. Canys pa gydgyfranogiad a all fod rhwng cyfiawnder ac anghyfraith, neu beth sy’n gyffredin rhwng goleuni a thywyllwch?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na ieuer chwi yn anghymharus gyda'r rhai di-gred; canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfiawnder? a pha gymundeb rhwng goleuni a thywyllwch?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n wahanol i bobl sydd ddim yn credu — felly peidiwch ymuno â nhw. Ydy cyfiawnder a drygioni'n gallu bod yn bartneriaid? Neu olau a thywyllwch?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch ag ymgysylltu'n amhriodol ag anghredinwyr, oherwydd pa gyfathrach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfraith? A pha gymdeithas sydd rhwng goleuni a thywyllwch?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na ieuer chwi yn annghymharus â rhai digred: canys pa gyd‐gyfrannogaeth sydd rhwng cyfiawnder ac annghyfraith? neu pa gymmundeb sydd rhwng goleuni a thywyllwch?