2 Corinthians 6:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ pha gydfot ’sydd i Tem p l D d uw ac eiddoleu? can ys chwi yw Tem p l Dduw byw: val y dyvod Duw, Preswiliaf ynthwynt, ac a rodiaf yn y mewn: a’ byddaf yn Dduw yddwynt, ac hwy vyddant yn popul y mi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A pha gyfundeb i deml Dduw ag eulunod? canys nyni teml i’r Duw byw ydym; fel y dywedodd Duw, “Preswyliaf ynddynt, a rhodiaf yn ddynt, a byddaf eu Duw hwynt, a hwy a fyddant Fy mhobl I.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pa gydfod sydd rhwng teml Dduw ac eilunod? Oblegid teml y Duw byw ydym ni, megis y dywedodd Duw: Trigaf yn eu plith a rhodiaf yn eu canol, A byddaf yn Dduw iddynt a byddant hwy yn bobl i mi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A pha gydfod sydd rhwng teml Duw ac eilunod? canys teml y Duw byw ydych chwi; fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysg, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydy'n iawn rhoi eilun-dduwiau yn nheml Duw? Na! A dŷn ni gyda'n gilydd yn deml i'r Duw byw. Fel mae Duw ei hun wedi dweud: “Bydda i'n byw gyda nhw ac yn symud yn eu plith nhw; fi fydd eu Duw nhw a nhw fydd fy mhobl i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pa gytundeb sydd rhwng teml Duw ac eilunod? Oherwydd nyni yw teml y Duw byw. Fel y dywedodd Duw: "Trigaf ynddynt hwy, a rhodiaf yn eu plith, a byddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwythau'n bobl i minnau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a pha gydsyniad rhwng cyssegr Duw ag eilunod? canys cyssegr y Duw byw ydym ni, fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf ynddynt; ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi;