2 Corinthians 7:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
WEithion can vot i ni yr a ddeweidion hyn, vy‐ garedion, ymgarthwn y wrth oll vrynti y cnawt ac yspryt, gan ymgwplau i saincteiddrwydd yn ofn i Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan fod, gan hyny, a’r addewidion hyn genym, anwylyd, glanhawn ein hunain oddiwrth bob halogrwydd cnawd ac yspryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, anwylyd, gan fod gennym yr addewidion hyn, glanhawn ein hunain oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny gan fod gennym yr addewidion hyn, anwylyd, ymlanhawn oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly ffrindiau annwyl, am fod Duw wedi addo'r pethau yma i ni, gadewch i ni lanhau'n hunain o unrhyw beth allai'n gwneud ni'n aflan. Am fod Duw i'w ofni, gadewch i ni gyrraedd at y nod o roi'n hunain iddo yn bobl lân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, gan fod gennym yr addewidion hyn, gyfeillion annwyl, ymlanhawn oddi wrth bob peth sy'n halogi cnawd ac ysbryd, gan berffeithio ein sancteiddrwydd yn ofn Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny gan fod gennym yr addewidion hyn, anwyliaid, glanhâwn ein hunain oddiwrth bob halogrwydd cnawd ac yspryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.