2 Corinthians 7:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys duwiol dristit a bair edeuerwch er iechyd vvrieth diedivar us: eithr bydol dristit a bair angeu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys tristwch yn ol Duw, edifeirwch i iachawdwriaeth, o’r hon nid oes edifeirwch, a weithia efe; ond tristwch y byd, marwolaeth a weithia efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oblegid y mae tristwch yn ôl ewyllys Duw yn cynhyrchu edifeirwch er iachawdwriaeth sydd ddiedifarus. Ond y mae tristwch y byd yn cynhyrchu marwolaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iachawdwriaeth ni bydd edifeirwch ohoni: eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r math o dristwch mae Duw am ei weld yn gwneud i bobl newid eu ffyrdd a chael eu hachub. Dydy hynny byth yn rhywbeth i'w ddifaru! Ond dydy teimlo'n annifyr am rywbeth, heb droi at Dduw, ddim ond yn arwain i farwolaeth ysbrydol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Canys y mae'r loes a dderbynnir mewn ffordd dduwiol yn creu edifeirwch sydd yn arwain i iachawdwriaeth na ellir bod yn flin amdano; ond y mae'r loes a dderbynnir mewn ffordd fydol yn peri marwolaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys tristwch tuag at Dduw sydd yn cynnyrchu edifeirwch i iachawdwriaeth, yr hwn edifeirwch ni fyddis edifar o hono; eithr tristwch y byd a gynnyrcha angau.