2 Corinthians 7:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cāys wely, hyn yma am ðuwiol dristau o hanoch, pa astudrwyð ei veint a weithioð ynoch: anyd pa amðeffen: any d pa gilwc: any d pa ofn: any d pa ’oglyd: anyd pa wynvyd: any d pa ddial: ac ym pop peth yr ymðangosasoch ych bot yn pur yn y devnyð hwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys wele, y peth hwn ei hun, eich tristau yn ol Duw, pa faint o astudrwydd a weithiodd efe ynoch, ïe o ymddiffyn, ïe o sorriant, ïe o ofn, ïe o hiraeth, ïe o sel, ïe o ddial. Ymhob peth y dangosasoch eich hunain yn bur yn y matter.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wele, atolwg, gymaint eiddgarwch a barodd y tristwch sydd wrth fodd Duw i chwi a pha gyfiawnhad, pa ddicllonedd, pa ofn, pa hiraeth, pa sêl, pa gosbedigaeth. Fe’ch dangosasoch eich hunain ym mhob rhyw fodd yn bur yn y drafodaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys wele hyn yma, eich tristáu chwi yn dduwiol, pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch, ie, pa amddiffyn, ie, pa soriant, ie, pa ofn, ie, pa awyddfryd, ie, pa sêl, ie, pa ddial! Ym mhob peth y dangosasoch eich bod yn bur yn y peth hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychwch beth mae'r tristwch mae Duw'n edrych amdano wedi ei wneud ynoch chi: mae wedi creu brwdfrydedd ac awydd i sortio'r peth allan, ac wedi'ch gwneud chi mor ddig fod y fath beth wedi digwydd. Mae wedi creu y fath barch ata i, y fath hiraeth amdana i, y fath sêl, y fath barodrwydd i gosbi'r troseddwr. Drwy'r cwbl i gyd dych wedi profi fod dim bai arnoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ystyriwch ganlyniadau derbyn eich loes mewn ffordd dduwiol: y fath ymroddiad a barodd ynoch, ie, y fath hunanamddiffyniad, y fath ddicter, y fath ofn, y fath ddyhead, y fath sl, y fath benderfyniad i gosbi'n gyfiawn. Ym mhob ffordd yr ydych wedi dangos eich bod yn ddi-fai yn y mater hwn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys wele y peth hwn ei hun, sef tristâu tuag at Dduw, y fath lwyrfrydedd a gynnyrchodd ynoch; ië, ymddiffyn; ië, sorriant; ië, ofn; ië, hiraeth; ië, sêl; ië, gospedigaeth! Ym mhob peth y dangosasoch eich hunain yn bur yn y mater.