2 Corinthians 7:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Er wyð paā, er scrivenu atoch, nyd scrivennais oi bleit ef yr hwn a wnaethoed oedd y cam vvedd, nac o bleit yr hwn a ga f as y cam vvedd, and er bod y gofal tu ac atoch chwi yngolwc Duw yn eglur y chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly, er ysgrifenu o honof attoch, nid oblegid yr hwn a wnaeth y cam yr oedd, nac oblegid yr hwn a gafodd y cam, eithr fel yr amlyger eich astudrwydd am danom i chwi eich hunain ger bron Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny os ysgrifennais atoch, nid oblegid y sawl a wnaeth anghyfiawnder nac oblegid y sawl a’i dioddefodd y gwneuthum hynny, eithr fel yr amlygid yn eich plith, gerbron Duw, eich eiddgarwch drosom ni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd paham, er ysgrifennu ohonof atoch, nid ysgrifennais o'i blegid ef a wnaethai'r cam, nac oblegid yr hwn a gawsai gam, ond er mwyn bod yn eglur i chwi ein gofal drosoch gerbron Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, roeddwn i'n ysgrifennu atoch chi fel gwnes i, dim i ddelio gyda'r un wnaeth y drwg, nac i ddangos fy mod i fy hun wedi cael cam. Roeddwn i'n ysgrifennu er eich mwyn chi! — i chi weld drosoch eich hunain mor bwysig ydy'n perthynas ni. Mae Duw'n gwybod!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, er i mi yn wir ysgrifennu atoch, nid o achos y sawl a wnaeth y cam, nac o achos y sawl a'i dioddefodd, y gwneuthum hynny, ond er mwyn amlygu i chwi, yng ngu373?ydd Duw, gymaint yw eich ymroddiad trosom.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly, er ysgrifennu o honof attoch, nid oedd yn achos yr hwn a wnaethai y cam, na'r hwn a gawsai gam, eithr fel yr amlyger eich llwyrfryd calon ar ein rhan i chwi eich hunain gerbron Duw.