2 Corinthians 7:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny in diddanit ni, achos ych diddany ad chwi: eithr llawenach o lawer mwy oeddem ni am lawenydd Titus, can lonni y yspryt ef genwch ’oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O achos hyn y’n diddanwyd; ac yn ein diddanwch, mwy tros fesur y llawenychasom am lawenydd Titus, o herwydd dadebru ei yspryd ef genych oll.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oblegid hyn y cysurwyd ni. Ond heblaw y cysur a ddaeth i’n rhan ni cawsom orfoledd llawer mwy oblegid y gorfoledd a ddaeth i ran Titws, canys cafodd ei ysbryd orffwystra drwy bawb ohonoch chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny nyni a ddiddanwyd yn eich diddanwch chwi: a mwy o lawer y buom lawen am lawenydd Titus, oblegid esmwytháu ar ei ysbryd ef gennych chwi oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dŷn ni wedi cael ein calonogi'n fawr! Ond yn fwy na hynny, roedden ni'n arbennig o falch o weld mor hapus oedd Titus. Cafodd y fath groeso gynnoch chi i gyd, ac mae wedi codi ei galon yn fawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyna pam yr ydym yn awr wedi ein diddanu. Ond yn ogystal 'n diddanwch ni, cawsom lawenydd mwy o lawer yn llawenydd Titus, am i chwi oll roi esmwythd i'w ysbryd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd hyn y'n dyddanwyd; ac yn ein dyddanwch ni a lawenhasom fwy o lawer am lawenydd Titus, oherwydd adlonni ei yspryd ef gennych chwi oll.