2 Corinthians 7:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys a’s ffrostiais ðim wrthaw am danoch, ny’m cywilyddiwyt: eithr megis y dywede isam wrthych bop dim yn‐gwirionedd, velly hefyt ydd oedd ein ffrost ni wrth Titus yn gywir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys os ymffrostiais ddim wrtho am danoch, ni’m cywilyddiwyd; eithr fel mewn gwirionedd y llefarasom bob peth wrthych, felly ein hymffrost hefyd wrth Titus a gafwyd yn wirionedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os ymffrostiais ddim wrtho o’ch plegid chwi ni’m cywilyddiwyd, eithr megis y llefarasom bopeth wrthych mewn gwirionedd, felly hefyd y gwireddwyd ein hymffrost gerbron Titws.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid os bostiais ddim wrtho ef amdanoch, ni'm cywilyddiwyd: eithr megis y dywedasom wrthych bob dim mewn gwirionedd, felly hefyd gwirionedd oedd ein bost ni, yr hwn a fu wrth Titus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roeddwn i wedi bod yn brolio amdanoch chi wrtho, a wnaethoch chi ddim fy siomi i. Yn union fel mae popeth dŷn ni wedi ei ddweud wrthoch chi'n wir, mae beth ddwedon ni amdanoch chi wrth Titus wedi troi allan i fod yn wir hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd os wyf wedi ymffrostio rywfaint wrtho amdanoch chwi, ni chefais fy nghywilyddio, ond fel y mae popeth a ddywedais wrthych chwi yn wir, felly hefyd daeth fy ymffrost wrth Titus yn wir.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys os ymffrostiais ddim wrtho am danoch, ni'm cywilyddiwyd; eithr fel y llefarasom bob peth wrthych mewn gwirionedd, felly ein hymffrost hefyd wrth Titus a gafwyd yn wirionedd.