2 Corinthians 7:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y may y galondit ef yn helaethach tu ac atoch vvi, pan goffaeych vvyðdot chwi oll, a’ pha wedd gyd ac ofn ac echryn yd erbyniesoch ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’i ymysgaroedd ef sydd fwy tros fesur tuag attoch, wrth adgofio o hono ufudd-dod yr oll o honoch, y modd gydag ofn a dychryn y derbyniasoch ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae ganddo serch eithriadol gynnes tuag atoch wrth gofio am ufudd-dod pawb ohonoch, pa fodd y derbyniasoch ef gydag ofn a chryndod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae ei ymysgaroedd ef yn helaethach tuag atoch, wrth gofio ohono eich ufudd-dod chwi oll, pa fodd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae wedi dod mor hoff ohonoch chi. Mae e'n cofio sut fuoch chi i gyd mor ufudd, a dangos y fath barch a chonsýrn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae ei galon yn cynhesu fwyfwy tuag atoch o gofio ufudd-dod pob un ohonoch, a'r modd y derbyniasoch ef mewn ofn a dychryn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae ei serch ef yn helaethach tuag ag attoch, wrth gofio o hono eich ufudd‐dod chwi oll, y modd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef.