2 Corinthians 7:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nyd er ech barnedigaeth y dywedaf: can ys rac ddywedais, ych bot chwi yn ein calonheu ni, y gyd varw a’ byw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ar neb nid ennillasom. Nid er eich condemniad yr wyf yn dywedyd, canys dywedais o’r blaen mai yn ein calonnau yr ydych, i gyd-farw a chyd-fyw â chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid i’ch condemnio yr wyf yn llefaru. Canys dywedais eisoes eich bod yn ein calonnau fel y byddom farw a byw gyda’n gilydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid i'ch condemnio yr wyf yn dywedyd: canys mi a ddywedais o'r blaen eich bod chwi yn ein calonnau ni, i farw ac i fyw gyda chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i ddim yn ceisio gweld bai arnoch chi drwy ddweud hyn. Fel y dwedais i, dych chi'n sbesial iawn yn ein golwg ni. Fydd ein cariad ni ddim llai, doed a ddelo — byw neu farw
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid i'ch condemnio yr wyf yn dweud hyn, oherwydd dywedais wrthych o'r blaen eich bod mor agos at ein calon, nes ein bod gyda'n gilydd, deued marwolaeth neu fywyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid er eich condemniad yr wyf yn dywedyd; canys dywedais o'r blaen eich bod chwi yn ein calonnau i farw ac i fyw gyda chwi.