2 Corinthians 7:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y mae hyfder vy ymadrodd wrthych: y mae genyf ’orvoledd mawr ynoch: im cyflawnir o ddiddanwch, ac ydd wyf yn dra llawen yn ein oll orthrymder.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Llawer o hyfder ymadrodd sydd genyf wrthych; llawer o ymffrost sydd genyf am danoch; llawn wyf o ddiddanwch; tros fesur tra-chyflawn wyf o lawenydd yn ein holl orthrymder.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Mawr yw fy rhyddid tuag atoch, mawr yw fy ymffrost o’ch plegid. Yr wyf yn gyflawn o ran diddanwch, yr wyf yn orlawn o ran gorfoledd ym mhob gorthrymder a ddaw i’n rhan.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych. Y mae gennyf orfoledd mawr o'ch plegid chwi: yr wyf yn llawn o ddiddanwch, yn dra chyflawn o lawenydd yn ein holl orthrymder.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae gen i hyder ynoch chi. Dw i wir yn falch ohonoch chi. Dw i wedi fy nghalonogi'n fawr. Dw i'n wirioneddol hapus er gwaetha'r holl drafferthion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae gennyf hyder mawr ynoch, a balchder mawr o'ch herwydd. Y mae fy nghwpan yn llawn o ddiddanwch, ac yn gorlifo llawenydd yng nghanol ein holl orthrymder.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae hyfder fy ymadrodd tuag attoch yn fawr; y mae fy ymffrost am danoch yn fawr; yr wyf yn llawn o ddyddanwch; yr wyf yn gorlifo o lawenydd yn ein holl orthrymder.