2 Corinthians 7:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys gwedy ein dyvot i Vacedonia, ny chai ein cnawd ni ddim llonydd, eithr in gorthymid o bop parth, gan ymladdae o dd y allan, ac ofn ion o dd y mywn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys wedi dyfod o honom i Macedonia, nid oedd dim gorphwysfa i’n cnawd, eithr o bob parth gorthrymmid ni;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys yn wir, wedi dyfod ohonom i Facedonia ni chafodd ein cnawd ddim gorffwys, eithr ym mhob dim y’n cystuddiwyd. Oddi allan brwydrau, oddi mewn ofnau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys wedi ein dyfod ni i Facedonia, ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd; eithr ym mhob peth cystuddiedig fuom: oddi allan yr oedd ymladdau, oddi fewn ofnau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth bynnag, pan gyrhaeddon ni dalaith Macedonia chawson ni ddim llonydd wedyn. Roedd trafferthion bob cam o'r ffordd! Gwrthwynebiad pobl o'r tu allan, ac ofnau o'n mewn ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hyd yn oed pan ddaethom i Facedonia, ni chawsom ddim llonydd yn ein gwendid; yn hytrach cawsom ein gorthrymu ym mhob ffordd brwydrau oddi allan ac ofnau oddi mewn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys hyd y nod wedi dyfod o honom i Macedonia, ni chafodd ein cnawd esmwythâd, ond cystuddiwyd ni ar bob llaw; oddiallan, yr oedd ymladdau; oddimewn, ofnau.