2 Corinthians 7:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr awrhon yr wy’n llawē nyd can ich tristëit chwi, anyd am ych tristau i edweirwch: canys tristau a wnaethoch yn ðuwiol, val na chawsoch enwed yn‐dim y genym ni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn awr llawenychaf, nid am eich tristau, eithr am eich tristau i edifeirwch; canys tristawyd chwi yn ol Duw, fel na chaech golled mewn dim genym ni;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
er nad dim ond dros dro — erbyn hyn yr wyf yn llawen, nid oblegid eich bod wedi profi tristwch eithr oblegid eich bod wedi tristáu hyd at edifeirwch. Canys fe’ch tristawyd yn ôl ewyllys Duw, fel na chaffech eich niweidio mewn unrhyw fodd drwom ni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristáu chwi, ond am eich tristáu i edifeirwch: canys tristáu a wnaethoch yn dduwiol, fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dw i'n hapus bellach — dim am i chi gael eich gwneud yn drist, ond am fod hynny wedi gwneud i chi newid eich ffyrdd. Dyna'r math o dristwch mae Duw eisiau ei weld, felly wnaethon ni ddim drwg i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac er y bu'n flin gennyf, yr wyf yn awr yn falch, nid am i chwi gael loes, ond am i'r loes droi'n edifeirwch. Oherwydd derbyniasoch eich loes mewn ffordd dduwiol, ac felly ni chawsoch ddim colled trwom ni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr llawenhâu yr wyf, nid am eich tristâu chwi, eithr am eich tristâu i edifeirwch: canys tristâwyd chwi tuag at Dduw, fel na chaech golled mewn dim oddiwrthym ni;