2 Corinthians 8:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YDd ym ni hefyt yn espesu ywch, vroder, y r h at Duw a roðwyt i Ecclesi Macedonia,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac hyspysu yr wyf i chwi, frodyr, ras Duw, yr hwn a roddwyd yn eglwysi Macedonia;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwnawn yn hysbys i chwi, frodyr, y gras a rodded gan Dduw yn eglwysi Macedonia,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i eisiau dweud wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, am y ddawn o haelioni mae Duw wedi ei rhoi i'r eglwysi yn nhalaith Macedonia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe garem ichwi wybod, gyfeillion, am y gras a roddwyd gan Dduw yn yr eglwysi ym Macedonia.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr ydym ni hefyd yn hyspysu i chwi, frodyr, ras Duw yr hwn a roddwyd yn eglwysi Macedonia,