2 Corinthians 8:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd wyf yn ddangos vy meddwl yn hyn; can ys da vyddei hyn ychwi, yr ei a ddechreusoch nyd yn vnic gwneuthur, anyd hefyt wyllysy avv, er es blwyðyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac fy marn yn hyn a roddaf, canys hyn sydd er eich lles chwi, y rhai oeddych y cyntaf nid yn unig i wneuthur, eithr i ewyllysio hefyd, er y llynedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly cyngor a roddaf yn y mater hwn. Canys hyn sy’n fuddiol i chwi gan eich bod eisoes wedi dechrau, er y llynedd, nid yn unig wneuthur eithr hefyd ewyllysio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn: canys hyn sydd dda i chwi, y rhai a ragddechreuasoch, nid yn unig wneuthur, ond hefyd ewyllysio er y llynedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim ond eisiau awgrymu'r ffordd orau i ddelio â'r mater ydw i. Chi oedd y rhai cyntaf i benderfynu gwneud rhywbeth y flwyddyn ddiwethaf, a'r cyntaf i ddechrau arni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn hyn o beth, rhoi fy marn yr wyf, a hynny sydd orau i chwi, y rhai a fu'n gyntaf, nid yn unig i weithredu ond i ewyllysio gweithredu, er y llynedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn hyn yr ydwyf yn rhoddi fy marn: canys hyn sydd fuddiol i chwi, y rhai oeddech y cyntaf i wneuthur dechreuad flwyddyn yn ol, nid yn unig i wneuthur ond hefyd i ewyllysio.