2 Corinthians 8:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny d yvv er esmwytho ar eraill, a’ch gorthrymu chwi theu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys nid fel y bo i eraill ysgafnder,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys nid trefnu yr ydys i beri ysgafnhad i eraill a chaledi i chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid fel y byddai esmwythdra i eraill, a chystudd i chwithau;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i ddim eisiau gwneud bywyd yn anodd i chi am eich bod chi'n rhoi i geisio helpu pobl eraill. Beth dw i eisiau ydy tegwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid fy mwriad yw cael esmwythyd i eraill ar draul gorthrymder i chwi,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys nid fel y byddo hyn i fod er ysgafnder i eraill a gorthrymder i chwi; eithr yn ol cyfartalrwydd;