2 Corinthians 8:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr dan yr vn ambot, bot y pryt hyn ’ich helaethrwydd chwi ddivvallu y eisieu hwy, val y bo hefyt y helaethrwydd hwy tu ac at eich eisieu chwi, val y bo cymmedroldep:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac i chwi orthrymder; eithr o gyfartalrwydd. Y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu eu diffyg hwy, fel y bo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwi,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr, yn ôl egwyddor cyfartalwch, ar hyn o bryd y mae’r hyn sydd gennych i’w hepgor yn cwrdd â’u diffyg hwy fel y bo’r hyn a fo’n weddill ganddynt hwythau yn cwrdd â’ch diffyg chwi ac y bo cyfartalwch,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr o gymhwystra: y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu eu diffyg hwy, fel y byddo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwithau; fel y byddo cymhwystra:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar hyn o bryd mae gynnoch chi hen ddigon, a gallwch chi helpu'r rhai sydd mewn angen. Wedyn byddan nhw'n gallu'ch helpu chi pan fyddwch chi angen help. Mae pawb yn gyfartal felly.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond eich gwneud yn gyfartal. Yn yr amser presennol hwn y mae'r hyn sydd dros ben gennych chwi yn cyflenwi eu diffyg hwy, fel y bydd i'r hyn sydd dros ben ganddynt hwy gyflenwi eich diffyg chwi maes o law. Cyfartaledd yw'r diben.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y pryd hwn eich helaethrwydd chwi ar gyfer eu hangen hwy, fel y delo eu helaethrwydd hwythau ar gyfer eich hangen chwi, fel y byddo cyfartalrwydd;