2 Corinthians 8:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
(ac nyd hyny yn vnic, eithr hefyt ef a ddywyswyt gan Ecclesi dd yn gydymddeith vvr y‐ni erwydd y rhat hyn a wasanaethwyt genym er gogoniāt yr vnryw Arglwydd, ac amlygiat eich ewyllysgarwch chvvitheu)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac nid hyny yn unig, eithr wedi ei ddewis hefyd gan yr eglwysi i gydymdaith â ni yn y gras hwn, yr hwn a wasanaethir genym er gogoniant yr Arglwydd, ac i amlygu ein parodrwydd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac nid hynny’n unig eithr fe’i dewiswyd gan yr eglwysi i fod yn gydymaith i ni yn y gorchwyl graslawn hwn a weinyddir gennym er gogoniant i’r Arglwydd ei hun ac o’n hewyllysgarwch ni,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid hynny yn unig, eithr hefyd a ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdaith â ni â'r gras hwn, yr hwn a wasanaethir gennym er gogoniant i'r Arglwydd ei hun, ac i amlygu parodrwydd eich meddwl chwi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn wir, mae e hefyd wedi cael ei ddewis gan yr eglwysi i fynd gyda ni pan fyddwn yn mynd â'r rhodd i Jerwsalem — rhodd sy'n anrhydeddu'r Arglwydd ei hun ac hefyd yn dangos ein bod ni'n frwd i helpu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
un sydd, heblaw hyn, wedi ei benodi gan yr eglwysi i fod yn gyd-deithiwr ni, ac i'n cynorthwyo yn y rhodd raslon yr ydym yn ei gweinyddu, i ddangos gogoniant yr Arglwydd ei hun a'n heiddgarwch ni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond nid hynny yn unig, ond hefyd a ddewiswyd gan yr eglwysi i gyd‐ymdaith a ni yn y gras hwn, yr hwn a weinyddir gennym i ogoniant yr Arglwydd, ac i ddangos ein parodrwydd ni;