2 Corinthians 8:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac anvonesā y gyd ac wynt ein brawt, yr hwn a brovesam yn vynech o amser y vot yn ddiwyt, yn llawer o betheu, ac yr owrhon yn ddiwytiach o lawer, am y mawr ymddiriet ’sy genyf ynoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A danfonasom gyda hwynt ein brawd yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fod yn astud, ac yn awr yn llawer mwy astud, am yr ymddiried mawr sydd ganddo ynoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Anfonasom gyda hwynt ein brawd y cawsom brawf o’i sêl lawer gwaith ac mewn llawer modd; yn awr, fodd bynnag, y mae’n llawer mwy selog oblegid yr ymddiried mawr sydd ganddo ynoch chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni a anfonasom gyda hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fod ef yn ddyfal, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y mawr ymddiried y sydd gennyf ynoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n anfon brawd arall gyda nhw hefyd — un sydd wedi dangos lawer gwaith mor frwdfrydig ydy e. Ac mae'n fwy brwd fyth nawr gan ei fod yn ymddiried yn llwyr ynoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydym hefyd yn anfon gyda hwy ein brawd, yr un y cawsom brawf o'i ymroddiad mewn llawer modd a llawer gwaith. Y mae yn awr yn fwy ymroddgar byth oherwydd yr ymddiriedaeth lwyr sydd ganddo ynoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A danfonasom gyda hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau lawer gwaith, ei fod yn eiddgar, ond yn awr yn llawer mwy eiddgar, o herwydd ei ymddiried mawr ynoch chwi.