2 Corinthians 8:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Neu a’s gofyn neb am Titus, efe yvv vy‐cyfaill a’ chydweithydd tu ato‐chwi: neu am ein brodur, y maent yn gennadae yr Ecclesi dd, ac yn ’ogoniant Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os am Titus y gofynir, cyd-gyfranogwr yw â mi, a thuag attoch chwi fy nghyd-weithiwr; neu os am ein brodyr, cenhadau yr eglwysi ydynt, a gogoniant Crist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Parthed Titws ar y naill law, fy nghydymaith ydyw a chyd-lafurwr yn eich plith; parthed ein brodyr, ar y llaw arall, cenhadau’r eglwysi, gogoniant Crist ydynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os gofynnir am Titus, fy nghydymaith yw, a chyd-weithydd tuag atoch chwi; neu am ein brodyr, cenhadau'r eglwysi ydynt, a gogoniant Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os oes cwestiwn yn codi am Titus — fy mhartner i ydy e, yn gweithio gyda mi i'ch helpu chi. Os oes unrhyw gwestiwn am y brodyr eraill — nhw sy'n cynrychioli'r eglwysi ac maen nhw'n glod i'r Meseia ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os gofynnir am Titus, fy nghydymaith yw, a'm cydweithiwr yn eich gwasanaeth; neu am y brodyr, cenhadau'r eglwysi ydynt, a gogoniant Crist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os am Titus y gofynnir, efe yw fy nghydymaith a'm cyd‐weithiwr tuag attoch chwi; neu am ein brodyr, cenhadau yr eglwysi ydynt, gogoniant Crist.