2 Corinthians 8:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hyn a vnaethant vvy, ny d mal ydd oeðem ni yn edrych am danaw: any y rhoi y hunain yn gyntaf ir Arglwydd, ac yno y ni nheu gan ewyllys Duw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac nid fel y gobeithiasom, eithr hwynt eu hunain a roddasant hwy yn gyntaf i’r Arglwydd, ac i ni trwy ewyllys Duw:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac nid yn ôl ein disgwyliad y gwnaethant, eithr fe’u rhoesant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd ac yna i ni drwy ewyllys Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn a wnaethant, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a'u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n gwneud llawer mwy nag oedden ni'n ei ddisgwyl, trwy roi eu hunain yn y lle cyntaf i'r Arglwydd, ac wedyn i ninnau hefyd. Dyna'n union oedd Duw eisiau iddyn nhw ei wneud!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac aethant ymhellach na dim y gobeithiais amdano, gan eu rhoi eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac i ninnau yn l ewyllys Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a hyn, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a'u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw;