2 Corinthians 8:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
er bot i ni annoc Titus, pan‐yw yddaw val y dechreawð, velly ac yddo ’orphen yr vnryw rat yn eich plith chvvi hefyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel yr erfynasom ar Titus, fel y dechreuasai o’r blaen, felly y gorphenai ynoch y gras hwn hefyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny yr anogasom Titws, megis y cychwynnodd y gorchwyl graslawn hwn yn eich plith, felly hefyd i’w orffen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y dymunasom ni ar Titus, megis y dechreuasai efe o'r blaen, felly hefyd orffen ohono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
I hyn dw i'n dod: Dw i wedi annog Titus, gan mai fe ddechreuodd y gwaith da yma yn eich plith chi, i'ch helpu chi i orffen eich rhan chi yn y gwaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly yr ydym wedi gofyn i Titus orffen y gwaith grasusol hwn yn eich plith yn union fel y dechreuodd arno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
mewn canlyniad, cymhellasom Titus, megys y dechreuasai efe o'r blaen, felly hefyd orphen o hono ynoch chwi y gras hwn hefyd.