2 Corinthians 8:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can val ydd ych yn amylhau ym‐pop dim, yn ffydd a’ gair, a’ gwybod aeth, ac ym‐pop astudrwydd, ac yn eich cariat i ni, bot i chvvi yr vn modd amylhau yn y rhat hyn hefyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr fel ymhob peth yr ydych yn orlawn, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag attom ni, edrychwch ar fod o honoch yn y gras hwn yn orlawn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr megis yr ydych yn oludog ym mhob peth, mewn ffydd a gair a gwybodaeth, ym mhob ymroddiad ac yn y cariad a ddaeth i’ch plith drwom ni, felly hefyd byddwch gyfoethog yn y gras hwn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag atom ni; edrychwch ar fod ohonoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae gynnoch chi fwy na digon o ddoniau — ffydd, siaradwyr da, gwybodaeth, brwdfrydedd, a chariad aton ni. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi ar y blaen wrth roi'n hael hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ym mhob peth yr ydych yn helaeth, yn eich ffydd a'ch ymadrodd a'ch gwybodaeth, yn eich ymroddiad llwyr ac yn y cariad a enynnwyd ynoch gan ein cariad ni. Felly hefyd byddwch yn helaeth yn y gorchwyl grasusol hwn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob llwyrfrydedd, ac yn eich cariad tuag attom ni, gofelwch ar fod o honoch yn helaeth yn y gras hwn hefyd.