2 Corinthians 8:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys adwaenoch rat ein Arglwydd Iesu Christ, ’sef am iddo ac ef yn gyvoethawc, vynet er eich mwyn chwi yn dlawt, val can y dlodi ef y cyfoethogit chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, mai er eich mwyn chwi yr aeth yn dlawd, ac Yntau yn oludog, fel y byddai i chwi, trwy Ei dlodi Ef, fyned yn oludog.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, ddarfod iddo, ac yntau’n gyfoethog, fyned yn dlawd er eich mwyn chwi fel y’ch cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau'n gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dych chi'n gwybod mor hael oedd yr Arglwydd Iesu Grist ei hun. Er ei fod e'n gyfoethog yng ngwir ystyr y gair, gwnaeth ei hun yn dlawd er eich mwyn chi! — a hynny er mwyn i chi ddod yn gyfoethog yn eich perthynas â Duw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr ydych yn gwybod am ras ein Harglwydd Iesu Grist, fel y bu iddo, ac yntau'n gyfoethog, ddod yn dlawd drosoch chwi, er mwyn i chwi ddod yn gyfoethog trwy ei dlodi ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
(Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac efe yn gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef).