2 Corinthians 9:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys gwenidogeth y y gwasanaeth hwn nyd yw yn vnic yn cyflanwy angēreidiae ’r Saint æ, anyd y mae hefyt yn aml gan ddyolch llaweroe dd y Dduw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys meistriaid y weinidogaeth hon sydd nid yn unig yn cyflawni diffygion y saint, eithr yn ymhelaethu hefyd trwy aml-roddi diolch i Dduw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y mae gweinyddiad y gymwynas hon nid yn unig yn cyflawni angen y saint eithr y mae’n helaethach fyth trwy lawer o ddiolchiadau i Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon, nid yn unig yn cyflawni diffygion y saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nid dim ond cwrdd ag angen pobl Dduw mae beth dych chi'n ei wneud — mae'n llawer mwy na hynny. Bydd yn gwneud i lawer o bobl ddweud diolch wrth Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'r cymorth a ddaw o'r gwasanaeth hwn, nid yn unig yn diwallu anghenion y saint ond hefyd yn gorlifo mewn llawer o ddiolchgarwch i Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys y mae gweinyddiad y gwasanaeth hwn, nid yn unig yn llanw i fyny ddiffygion y saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw;