2 Corinthians 9:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
(yr ei wrth broviad y weinidogaeth hon a volant Dduw dros eich cydsynniol ym ddar ostwng edigaeth i r Euangel Christ, a’ thros eich dibrin gyfraniat yðynt wy, ac y bawp oll)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan mai trwy brawf y ministriad hwn y maent yn gogoneddu Duw am ufudd-dod eich cyffes i Efengyl Crist, ac am haelioni eich cymhorth iddynt hwy ac i bawb;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Drwy gyfrwng y prawf a geir yn y gwasanaeth hwn y maent yn gogoneddu Duw oblegid ufudd-dod eich cyffes i efengyl Crist a haelfrydedd eich cydymdeimlad â hwy ac â phawb.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan eu bod, trwy brofiad y weinidogaeth hon, yn gogoneddu Duw oherwydd darostyngiad eich cyffes chwi i efengyl Crist, ac oherwydd haelioni eich cyfraniad iddynt hwy, ac i bawb;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pobl yn moli Duw am fod eich haelioni chi wrth rannu gyda nhw a phawb arall yn profi eich bod chi'n ufudd i'r newyddion da dych wedi ei gredu am y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar gyfrif y prawf sydd yn y cymorth hwn, byddant yn gogoneddu Duw am eich ufudd-dod i Efengyl Crist, yr Efengyl yr ydych yn ei chyffesu, ac am haelioni eich cyfraniad iddynt hwy ac i bawb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan eu bod, trwy y prawf o'r weinidogaeth hon, yn gogoneddu Duw am ufudd‐dod eich cyffes i efengyl Crist, ac am haelioni eich cyfraniad iddynt hwy ac i bawb;