2 Corinthians 9:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ chan ei gweddi trosoch, gan ych deisyf u chwi yn vawr, am yr ardderchawc‐rat Duw ’sy ynoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a hwy, â gweddi trosoch, yn hiraethu am danoch o herwydd dirfawr ras Duw y sydd ynoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan weddïo drosoch y maent yn hiraethu amdanoch oblegid bod gras Duw yn dra helaeth yn eich plith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrwy eu gweddi hwythau drosoch chwi, y rhai ydynt yn hiraethu amdanoch chwi, am y rhagorol ras Duw yr hwn sydd ynoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n gweddïo drosoch chi, ac yn hiraethu amdanoch chi, am fod Duw wedi'ch galluogi chi i fod mor hael.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddant yn hiraethu amdanoch ac yn gweddo ar eich rhan, oherwydd y gras rhagorol a roddodd Duw i chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
tra y maent hwythau eu hunain hefyd, gyda gweddi ar eich rhan, yn hiraethu am danoch chwi, o herwydd tra‐ragorol ras Duw, yr hwn sydd ynoch chwi.