2 Corinthians 9:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys adwaen eich ewyllysgarwch chwi, ’rhwn ydd wyf yn ymffrostio am danoch wrth yr ei o Macedonia, gan ddyvvedyt, bot Achaia gwedi hi pharatoi er ys blwyddyn, ach awyddvryd chwi a annogodd lawer.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys gwn eich parodrwydd, yr hwn yr wyf yn ymffrostio ynddo drosoch chwi i’r Macedoniaid, fod Achaia wedi ei pharottoi er’s y llynedd; ac eich sel chwi a annogodd lawer iawn o honynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys gwn am eich ewyllysgarwch a byddaf yn ymffrostio yn eich cylch wrth y Macedoniaid fod Achaia yn barod er y llynedd. Symbylodd eich sêl y rhan fwyaf ohonynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd mi a adwaen barodrwydd eich meddwl chwi, yr hwn yr ydwyf yn ei fostio wrth y Macedoniaid amdanoch chwi, fod Achaia wedi ymbaratoi er y llynedd; a'r sêl a ddaeth oddi wrthych chwi a anogodd lawer iawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gwybod eich bod chi'n awyddus i helpu. Dw i wedi bod yn sôn am y peth wrth bobl Macedonia, ac yn dweud wrthyn nhw eich bod chi yn nhalaith Achaia wedi bod yn barod ers y flwyddyn ddiwethaf. Clywed am eich brwdfrydedd chi sydd wedi ysgogi y rhan fwya ohonyn nhw i wneud rhywbeth!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwn am eich eiddgarwch, a byddaf yn ymffrostio amdano ac amdanoch chwi wrth y Macedoniaid, ac yn dweud bod Achaia wedi ymbaratoi er y llynedd; a bu eich sl yn symbyliad i'r rhan fwyaf ohonynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys gwn eich parodrwydd, am yr hwn yr wyf yn ymffrostio drosoch chwi wrth y Macedoniaid, fod Achaia wedi ymbarottoi er y llynedd; a'ch sêl chwi a symbylodd y rhan fwyaf o honynt.